Tudalen:Beryl.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd Tregwerin o Faesycoed ag o Fodowen. A dilyn llwybr troed trwy'r caeau am ran o'r ffordd, nid oedd yn fwy na milltir a hanner.

Aethai'r Eisteddfod heibio—heb wobr i gôr Mr. Morgan. Bwriadai fod yn fuddugol yn yr un nesaf, wedi i'w gantorion ieuainc gael blwyddyn arall o'i addysg ef. Erbyn hyn yr oedd Eric dros yr oed i ymuno â'r côr, ac yr oedd Nest yn rhy brysur gyda'i gwersi i feddwl gwneud hynny. Un nos Sul ym mis Mai, daeth Mr. Morgan i Faesycoed i erfyn ar Nest gystadlu ar y Solo i ferched o dan un ar bymtheg oed. "Eos Lais" oedd yr alaw. Byddai'n taro llais Nest i'r dim. Gwnâi ef ei orau glas i'w dysgu'n dda. Yr oedd eisiau i Nest ddechrau canu'n gyhoeddus, ac yr oedd eisiau i bobl yr ardal a'r cylch wybod pa fath gantores oedd yn eu plith. Yr oedd gini o wobr. Peth arall, os enillai yn Llanilin, diau y teimlai'n ddigon cryf i ganu mewn Eisteddfodau eraill ar hyd a lled y wlad. Yr. oedd modd ennill llawer o arian felly.

Gwelodd Nest yn hyn gyfle i helpu Beryl ac Eric, ac addawodd gystadlu.

Daeth y dydd pwysig o'r diwedd,—y pwysicaf o holl ddyddiau'r flwyddyn yn ardal Llanilin. Yr oedd heolydd y dref yn llawn o bobl a cherbydau yn gynnar yn y bore.