Tudalen:Beryl.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dechreuai cyfarfod cyntaf yr Eisteddfod am ddeg. Ni orffennid tan chwech yn y prynhawn. Byddai "Cyngerdd Mawreddog" drachefn yn yr hwyr.

Aeth Eric a Beryl a Nest yno erbyn deg. Yr oedd Eric wedi sicrhau lleoedd yn barod erbyn cyfarfod y prynhawn. Am un ar ddeg yr oedd rhagbraw ar y Solo yn un o gapeli'r dref. Hyd hynny caent aros ar y cae a gweld y tyrfaoedd yn dylifo i'r babell.

Câi Beryl a Nest bleser mawr wrth sylwi ar wisgoedd y merched. Gwisgai pob un ei dillad gorau ar y dydd hwnnw. Yr oedd dillad newydd ganddynt hwythau eu dwy. Ffroc fach syml o sidan gwyn oedd gan Nest. Un o ddefnydd ysgafn lliw blodau'r grug oedd gan Beryl. Meddyliai Eric nad oedd harddach dwy chwaer gan neb; ond ni ddywedodd air am hynny.

Yr oedd Geraint ac Enid wedi mynd i Benylan am y dydd. Gofynasai Mrs. Lewis am gael gofalu amdanynt. Byddai'n dda ganddi gael eu cwmni, gan mai hi'n unig o'r teulu a fyddai gartref ar y dydd hwnnw.

Daethant o'r rhag braw yn llawen. Yr oedd Nest i fod yn un o dair i ganu ar y llwyfan. Wedi cael bwyd, aethant i'w lleoedd yn y