Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

datganoli ardrethi busnes i'r Alban a Gogledd Iwerddon (ac a ddefnyddir hefyd pan ddatganolir ardrethi busnes yn llawn i Gymru). Ni ellir cymhwyso hyn yn uniongyrchol yn ehangach oherwydd mae gan wariant a ariennir gan ardrethi busnes (lle defnyddir y refeniw hwn i ariannu gwariant lleol) ffactor cymhariaeth Barnett penodol nad yw'n berthnasol i'r un dreth arall.

30. Mae’r dull o addasu'r grant bloc ar gyfer datganoli ardrethi busnes wedi'i osod allan yn adran 14. Yn fyr, mae hyn yn golygu tynnu swm o’r grant bloc sylfaenol a lleihau unrhyw symiau Barnett canlyniadol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod y grant bloc yn ariannu cyfran lai o wariant Llywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth Cymru wedyn yn cadw’r refeniw o ardrethi busnes (gan gynnwys unrhyw dwf yn y refeniw hwn). Yn debyg i’r cymhellion a gyflawnir drwy fynegeio’r addasiad treth incwm, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru'n elwa o'r dull hwn pan fydd ardrethi busnes yn tyfu'n gynt yng Nghymru na symiau canlyniadau Barnett yn dilyn newid ardrethi busnes yn Lloegr.

31. O weithredu egwyddorion allweddol y dull hwn, byddai’n bosibl addasu’r grant bloc ar gyfer treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn ogystal â thynnu swm o’r grant bloc sylfaenol a symiau canlyniadol Barnett fymryn yn llai. Gyda’r elfen olaf, er bod gan ardrethi busnes ffactorau cymhariaeth Barnett yn berthnasol iddynt (ac nid oes gan drethi eraill), gellid cyflawni effaith debyg mewn ffordd arall – er enghraifft drwy leihau’r holl symiau canlyniadol Barnett o ganran fechan, i adlewyrchu'r gyfran o wariant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei hariannu gan y trethi datganoledig. Byddai twf y trethi datganoledig, felly, yn llenwi’r bwlch fydd wedi’i adael gan y symiau canlyniadol Barnett llai.

32. Mae’r Llywodraeth yn parhau i drafod y cynnig hwn, ac opsiynau eraill, gyda Llywodraeth yr Alban ac erbyn hyn wedi cychwyn trafodaethau tebyg â Llywodraeth Cymru.