Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cost datganoli treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi i Lywodraeth Cymru

25. Bydd y ddwy dreth yn cael eu datganoli’n llwyr a’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fydd yn gwbl gyfrifol am ddyluniad y trethi a’r trefniadau ar gyfer eu casglu. Bydd Llywodraeth y DU yn cael trafodaeth fwy manwl â Llywodraeth Cymru am y gost bosibl i HMRC o weithredu’r newidiadau i’r systemau SDLT a LfT presennol. Bydd unrhyw gostau ychwanegol sy’n ymwneud â datganoli SDLT a LfT (net o’r arbedion i Lywodraeth y DU sy’n deillio o’r ffaith na fydd y trethi hynny’n cael eu casglu na’u gweinyddu yng Nghymru mwyach) yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i leihau unrhyw gostau o’r fath.

Addasu’r grant bloc yng nghyswllt treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi

26. Mae’r Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad Comisiwn Silk na ddylai addasu’r bloc grant gael ei fynegeio yn erbyn sylfaen drethi gyfatebol y DU.

27. Bydd hyn felly’n trosglwyddo'r cyfrifoldeb llawn am reoli natur ansefydlog y refeniw o'r trethi datganoledig (a bydd dulliau rheoli trethi newydd yn cael eu darparu i wneud hyn) i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn llawer symlach i'w weithredu na mynegeio parhaus. Fodd bynnag, nid yw’n gwbl rwydd nodi union natur (na maint) addasiad o’r fath y byddai’r ddwy lywodraeth yn debygol o gytuno arno fel addasiad teg yn y tymor hirach.

28. Pwrpas yr addasiad yw lleihau’r grant bloc ar sail y lleihad mewn refeniw i Lywodraeth y DU o ganlyniad i ddatganoli trethi. Gall Llywodraeth Cymru yna benderfynu a ddylid (a sut) i adennill y cyllid hwn drwy godi trethi datganoledig. Y nod felly yw datblygu dull addasu sy’n adlewyrchu nid yn unig y refeniw a gynhyrchir ar yr adeg y datganolir y trethi ond hefyd y rhagolygon disgwyliedig mwy hirdymor. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod datganoli’r trethi hyn yn deg i Gymru ac i weddill y DU, er y gallai’r addasiad hefyd gael ei adolygu o bryd i’w gilydd.

29. Er nad oes cynsail i wneud cymhariaeth uniongyrchol, man cychwyn defnyddiol yw’r addasiad i’r grant bloc a wnaed ochr yn ochr â