Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru, a benderfynir ar sail dyluniad a sut fydd y dreth Gymreig ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi’n cael ei gweinyddu. Mewn egwyddor, ac yn amodol ar drefniadau manwl, ni ddylai fod llawer o gwbl neu ddim cynnydd yn y baich cydymffurfio i drethdalwyr sy'n gweithredu ar safle unigol mewn unrhyw ran o'r DU: bydd cyfres ar wahân o reolau ar gyfer Cymru, yr Alban a gweddill y DU. Gallai gweithredwyr tirlenwi sy’n rhedeg safle yng Nghymru ac mewn rhan arall o’r DU weld cynnydd yn eu baich cydymffurfio oherwydd gallai fod angen hyd at dair ffurflen dreth tirlenwi yn y dyfodol, yn lle un ar hyn o bryd.

24. Bydd angen nifer o fân-ddiwygiadau i’r gyfundrefn LfT bresennol ar ôl datganoli.

  • Cafodd y gronfa cymunedau tirlenwi (LCF) ei sefydlu ochr yn ochr â’r LfT i fynd i’r afael â rhai o effeithiau tirlenwi drwy wella’r amgylchedd yng nghyffiniau’r safleoedd tirlenwi. Ariennir y gronfa hon gan gyfraniadau oddi wrth weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy’n derbyn credyd LfT gwerth 90% o unrhyw gyfraniad cymwys a wneir ganddynt i gyrff amgylcheddol sy’n rhan o’r cynllun. Unwaith fydd y LfT wedi’i datganoli i Gymru, ni fydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru’n gymwys mwyach i dderbyn credyd LfT y DU, fydd wedyn ond ar gael am gyfraniadau sy’n fanteisiol i’r amgylchedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Pan fydd y dreth yn cael ei datganoli, bydd gan gyrff amgylcheddol arian heb ei wario o’r cyfraniadau hyn gan weithredwyr tirlenwi ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Am ddwy flynedd ar ôl i’r dreth hon gael ei datganoli, rhoddir caniatâd i wario’r arian hwn ar brosiectau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Golyga hyn y gellir defnyddio unrhyw gyfraniadau a wneir yn sgil gweithgareddau tirlenwi yng Nghymru ar brosiectau yn yr ardal honno.
  • Mae LfT yn un o’r prif ddulliau a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i gyrraedd ei tharged lleihau tirlenwi yn 2020 o dan y Gyfarwyddeb Tirlenwi (ar gyfer gwastraff trefol pydradwy). Gallai Gwledydd yr UE gael eu dirwyo am fethu â chyrraedd eu targed. Mae’n annhebyg y byddai’r DU yn methu â chyrraedd ei tharged lleihau tirlenwi dim ond oherwydd y newidiadau i bolisi treth tirlenwi yng Nghymru, ond os byddai hynny’n digwydd bydd y Llywodraeth yn ceisio adennill y gost hon gan Lywodraeth Cymru.