Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gweithredu cyfradd treth incwm Gymreig

38. Mae’r Bil yn pennu y byddai’r gyfradd treth incwm Gymreig newydd yn cael ei chasglu gan HMRC, yn defnyddio’r systemau treth incwm Hunanasesiad a PAYE presennol. Os cyflwynir y gyfradd Gymreig, bydd HMRC yn gweithio'n agos â'r holl bartïon y gallai'r newid hwn effeithio arnynt (yn benodol Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn cynnwys adrannau eraill o Lywodraeth y DU). Penderfynu ar gyfradd treth incwm Gymreig

39. Byddai angen i’r Cynulliad osod cyfradd newydd Gymreig bob blwyddyn, gyda chynnig yn cael ei basio mewn pryd fel y gellid casglu'r trethi ar ddechrau pob blwyddyn dreth. Er mwyn lleihau’r gost i HMRC ac i gyflogwyr y mesurau gweinyddol a chydymffurfio angenrheidiol, byddai angen i’r gyfradd ar gyfer blwyddyn dreth benodol gael ei chyfathrebu’n ffurfiol i Lywodraeth y DU erbyn diwedd Tachwedd yn y flwyddyn galendr flaenorol. Pe bai oedi gyda chyhoeddi’r gyfradd, byddai angen i Lywodraeth Cymru gytuno ar gyfradd dybiaethol er mwyn galluogi HMRC i gyhoeddi codau TWE i gyflogwyr a gweithwyr gan ystyried y gyfradd ar gyfer Cymru. Byddai’r amserlen hon yn lleihau’r baich cydymffurfio i drethdalwyr hefyd. Yna byddai angen i’r gyfradd gael ei phasio gan y weithdrefn briodol yn y Cynulliad erbyn 5 Ebrill fan bellaf, i ddarparu sail statudol ar gyfer casglu derbynebau treth o ddechrau'r flwyddyn dreth ymlaen. (Mae’n bosibl i gynnig gael ei basio yn gosod cyfradd wahanol i’r un gafodd ei chyhoeddi’n flaenorol, er y byddai hyn yn cynyddu’r costau). Unwaith fyddai’r dyddiad hwn wedi pasio, ni fyddai’n bosibl canslo na diwygio’r cynnig.

40. Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos â’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod paramedrau cylchoedd cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cefnogi'r broses hon.

Y gost o ddarparu cyfradd treth incwm Gymreig

41. Fel y nodir yn Natganiad Polisi Ariannu Trysorlys EM, Llywodraeth Cymru fydd yn ysgwyddo’r gost fydd yn gysylltiedig â datganoli treth incwm. Mae’r Bil yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu ad-dalu HMRC am y gost ychwanegol a fyddai’n gysylltiedig â gweithredu a chynnal cyfradd treth incwm Gymreig. Y costau a fyddai’n cael eu codi ar Lywodraeth Cymru fyddai’r costau ychwanegol (a elwir weithiau’n gostau ‘ymylol’) o weithredu’r gyfradd Gymreig. Ni fyddai costau a