Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rheoli’r Pwerau i Godi Trethi

77. Byddai gan Lywodraeth Cymru offer newydd i reoli ansefydlogrwydd unrhyw refeniw o drethi datganoledig[1] ac i ddelio ag unrhyw wall darogan (hy, lle mae’r derbynebion gwirioneddol yn wahanol i’r hyn oedd wedi’i ddarogan). Mae hyn yn cynnwys creu cronfa arian parod i Gymru ac ehangu ei phwerau benthyca i ariannu ei gwariant cyfredol. Bydd y trefniadau manwl ar gyfer rheoli pwerau trethu’n cael eu trafod â Llywodraeth Cymru a, maes o law, yn cael eu cyflwyno mewn Polisi Datganiad Cyllid diwygiedig.

78. Pe bai gwahaniaeth dros dro rhwng trethi a gwariant yn ystod y flwyddyn (ee, oherwydd ansefydlogrwydd y refeniw o drethi datganoledig) neu pe bai'r refeniw o drethi datganoledig yn is na'r darogan, gallai Llywodraeth Cymru:

  • naill ai ddefnyddio arian a dalwyd yn flaenorol i’r gronfa arian

parod; neu

  • defnyddio ei phwerau benthyca cyfredol tymor byr (os na

fyddai’r arian yn y gronfa wrth gefn yn ddigon i ateb y diffyg).

Cronfa wrth gefn

79. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi hawl i Lywodraeth Cymru dalu unrhyw refeniw trethi dros ben i mewn i gronfa wrth gefn, i’w ddefnyddio pan fydd refeniw yn y dyfodol yn is na’r hyn oedd wedi’i ddarogan. Bydd hyn yn ffordd i Lywodraeth Cymru reoli unrhyw ansefydlogrwydd yn ei chyllideb o ganlyniad i’w phwerau trethu newydd.

80. Gallai Llywodraeth Cymru gynhyrchu arian dros ben mewn dwy ffordd: pan fydd y refeniw o drethi datganoledig yn uwch na’r hyn oedd wedi’i ddarogan; neu pan fydd y cysoni diwedd blwyddyn ar gyfer y gyfradd treth incwm Gymreig a'r addasiad cyfatebol i'r grant bloc yn penderfynu bod angen i Lywodraeth y DU dalu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

81. Yr alwad gyntaf ar unrhyw refeniw trethi dros ben fydd ad-dalu unrhyw fenthyca cyfredol na chafodd ei dalu’n ôl. Gellir naill ai talu unrhyw arian sy’n weddill ar ôl ad-dalu i gronfa wrth gefn, i’w ddefnyddio pan

fydd refeniw yn y dyfodol yn is na’r hyn oedd wedi'i ddarogan, neu

  1. Ni fydd angen i Lywodraeth Cymru ddelio ag ansefydlogrwydd canol blwyddyn yng nghyswllt y gyfradd treth incwm Gymreig oherwydd bydd Llywodraeth y DU yn talu dros unrhyw refeniw darogan fel bo angen yn ystod y flwyddyn.