Tudalen:Bil Cymru Atebolrwydd a Grymuso Ariannol 2014.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Benthyca Cyfalaf

87. Mae Bil Cymru’n datganoli dwy dreth – y SDLT a’r LfT. Bydd hyn yn golygu y gallai’r Cynulliad ddeddfu i gyflwyno trethi newydd yn lle’r rhain hyn yng Nghymru, gan ddarparu ffrwd refeniw annibynnol i Lywodraeth Cymru (gwerth tua £200 miliwn y flwyddyn) i gefnogi ei benthyca. Felly, bydd pwerau benthyca cyfalaf newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â'r trethi datganoledig ym mis Ebrill 2018. Bydd benthyca yn erbyn y refeniw hwn yn darparu mwy o hyblygrwydd ac yn dod ag elfen bellach o atebolrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru.

88. Mae Bil Cymru’n gosod trothwy benthyca cyfalaf statudol o £500 miliwn. Ar sail yr oddeutu £200 miliwn o refeniw a ddatganolir i ddechrau, mae’r trothwy hwn yn uwch na phe bai wedi’i osod ond ar sail y gymhareb trethi / benthyca a ddefnyddir yn yr Alban.

89. Yn benodol, mae trothwy benthyca cyfalaf Llywodraeth yr Alban yn £2.2bn a daw’n gyfrifol am refeniw trethi sy'n werth tua £5bn ar hyn o bryd. Felly mae’r gymhareb rhwng y ddwy fymryn yn llai, sef 1:2. Byddai cymhwyso’r un gymhareb trethi / benthyca yng Nghymru wedi rhoi trothwy o tua £100m i Lywodraeth Cymru.

90. Mae hyn wedi’i gynyddu i £500 miliwn fel bod Llywodraeth Cymru’n gallu symud ymlaen â gwelliannau i’r M4 (os yw’n dewis gwneud hynny) cyn datganoli unrhyw elfen o dreth incwm. Mae'r Llywodraeth wedi barnu bod y lefel yma o fenthyca'n fforddiadwy i Lywodraeth Cymru ac yng nghyswllt benthyca net a dyledion net y DU.

91. Mae Bil Cymru hefyd yn cynnwys pŵer lle gall Llywodraeth y DU amrywio’r trothwy cyffredinol i fyny ac i lawr (ond nid o dan y £500 miliwn cychwynnol) drwy fwy o ddeddfwriaeth sylfaenol. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cytuno ar broses ar y cyd i adolygu lefelau cydgyfeirio gyda chyllid Cymru ym mhob Adolygiad o Wariant, ac mae Llywodraeth y DU yn cynnig ymestyn y broses i sicrhau bod y trothwy benthyca cyfalaf yn parhau i fod yn briodol. Bydd y trothwy’n cael ei osod ar lefel sydd, ym marn Llywodraeth y DU, yn briodol ar sail ei hasesiad o’r amgylchiadau economaidd ac ariannol pan gynhelir pob Adolygiad o Wariant, effaith chwyddiant ar werth go iawn y trothwy, ac ar sail faint o ffrwd refeniw annibynnol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.