teg-yn dyfod allan o'r llyn gan gerdded tuagato. Yr oedd wedi ei swyno gan ei phrydferthwch, a gofynnodd iddi, ar ei union, i'w briodi. Addawodd hithau ar un amod, na tharawai ef hi â haearn. Priodasant a buont fyw ynghyd yn hir. Ond un diwrnod ar ddamwain cyffyrddodd ef hi â haearn. Rhedodd hithau ymaith yn syth a diflannodd yn y llyn.
Ai chwedl ddi-sail yw honyna? Dim byd o'r fath. Mewn corsydd a llynnoedd y trigai rhai canghennau o'r hen Gymry. Deuthum i a'm cyfaill o hyd i amryw o'r hen gartrefi y soniais amdanynt mewn cors a elwir Cors Ty'n y Caeau. Eu rheswm dros fyw yn y gors oedd na ellid dyfod o hyd iddynt ond gan rywun a adwaenai lwybrau culion y gors yn dda. Pe deuai gelyn yno na wyddai am y gors, yn enwedig os deuai yn y nos, suddai dros ei ben yn y gors. Ac am yr