un rheswm y trigai eraill yn y llynnoedd,— bod yn ddiogel rhag eu gelynion. Gwthient bolion i'r llyn, â'u pennau allan o'r dwfr. Adeiladent eu cartrefi ar bennau'r polion hyn, ac aent yn ôl ac ymlaen iddynt ar hyd math ar ysgol a ellid ei thynnu i fyny pan fyddai perygl. A chan fod y llyn dwfr o'u hamgylch, byddent yn lled ddiogel yno rhag gelyn ac anifail gwyllt.
Ac ni wyddent ddim am feteloedd,— pres a haearn a'u tebyg. Cerryg a choed oedd eu harfau. Daeth cenedl un diwrnod i'r wlad i'w gorchfygu. Yr oedd gan hon arfau metel. A chyda'r arfau hyn hawdd oedd gorchfygu'r hen genedl. Yn naturiol iawn byddai arnynt arswyd arfau metel byth mwy. Ac ni phriodai'r un o'u merched un o feibion y bobl a'u gorchfygodd, heb iddo addo cadw oddiwrthi yr arfau a orchfygodd ei chenedl. Stori am y cyfnod hwn wedi ei newid gryn lawer yw