Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwyta ac yfed ac ymddiddan, yn ddi-reol, a wnaethant yn hir, nes i'r ymddiddan arafu, a hwythau deimlo'n drymllyd. Yna aethant i gysgu.

Ond ni allech ddisgwyl hyfrydwch fel hyn yn hir ag Efnisien—duw casineb a llid—yn y wlad. Ennyn casineb a llid a dinistrio cariad oedd ei waith ef. Brwydr rhwng Efnisien a Branwen yw'r frwydr fawr ymhob oes,—Efnisien yn ceisio dinistrio cysur Branwen, a Branwen yn ceisio lladd dylanwad Efnisien. Brwydr rhwng cas a chariad yw hanes ein byd ni. Pa un ai Efnisien ynteu Branwen a orchfyga yn y diwedd, tybed?

Cyfododd pawb o bobl y llys, drannoeth y wledd, a dechreuodd y swyddwyr ar y gwaith mawr o rannu'r meirch a'r gweision, a'u rhannu a wnaethant o'r diwedd—