Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yr oedd llawer ohonynt—ymhob cyfeiriad hyd y môr. Pwy a ddaeth heibio un o'r dyddiau hyn ond Efnisien, ac aeth i lety meirch Matholwch. Ei neges fawr oedd taro ar gynllun i ddinistrio cariad Matholwch a Branwen.

"Pwy biau'r meirch hyn?" eb ef.

"Matholwch, brenin Iwerddon," ebe'r gwŷr wrtho.

"Beth a wnant hwy yma?" eb ef.

"Yma y mae brenin Iwerddon," ebe hwy, "a briododd Franwen dy chwaer, a'i feirch ef yw'r rhai hyn."

"Ac felly y gwnaethant hwy a morwyn cystal â honno," eb Efnisien, ac yn chwaer i minnau? Ei rhoddi heb fy nghaniatad i? Ni allent hwy ddirmygu mwy arnaf i na hynny."