Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sylwch yn fanwl beth a ddywed Bendigaid Fran wrtho yn awr,—

"Mi a roddaf fwy o iawn iti hefyd," ebe Bendigaid Fran, "mi a roddaf bair iti. A dyma rinwedd y pair, y gŵr a ladder heddyw, iti ei fwrw i'r pair, ac erbyn yfory bydd yn gystal ag y bu oreu, eithr na bydd lleferydd ganddo."

Beth oedd y pair neu'r llestr hwn? Dyma beth arall sy'n dangos mai hen dduw oedd Bendigaid Fran. Yr oedd traddodiad am bair rhyfedd yn hen grefydd y Cymry. Anodd yw gwybod yn awr beth ydoedd. Meddylid amdano weithiau fel cwpan. Dyna i chwi gwpan Taliesin, os yfai neb ohono âi'n fardd. Dyna bair Ceridwen hefyd, berwi dwfr ysbrydoliaeth oedd hwnnw, ac os yfech ohono medrech weled y dyfodol heblaw bod galluoedd rhyfedd eraill yn dyfod yn eiddo i