Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwi. A dyma bair yma a fedrai godi'r marw'n fyw. Rhyw lestr ydoedd a berthynai i'r gwaith o addoli'r hen dduwiau. Ar y traddodiadau hyn y sylfaenwyd rhamant swynol y Sancreal. A wyddoch rywbeth am honno?

Diolchodd Matholwch i Fendigaid Fran am ei gynnyg, a llawenhaodd yn fawr iawn o achos y peth. A thrannoeth talwyd ei feirch iddo, meddir, tra y parhaodd meirch dof, yna aethpwyd i gwmwd arall i ddal ebolion i dalu'r rheiny iddo, nes talu'r cwbl o'r ddyled. Am hynny dodwyd ar y cwmwd hwnnw, o hynny allan, yr enw Tal Ebolion. Dyna esboniad yr hen stori ar yr enw hwnnw. Eithr y mae'n bosibl y dargenfydd un ohonoch mai ymdrech yw'r darn hwn i esbonio enw lle na wyddai neb beth ydoedd ei ystyr. A'r pair hwn fu achos dinistr Bendigaid Fran, yn y diwedd.