Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ha, wŷr," ebe Matholwch, "beth yw eich cyngor chwi?"

"Arglwydd," ebe hwy, "nid oes ond un cyngor. Ni thrigodd ef erioed mewn tŷ. Gwna dŷ, iddo ef a gwŷr Ynys y Cedyrn drigo yn y naill ran ohono, a thithau a'th lu yn y rhan arall, a dyro dy frenhiniaeth yn ôl ei ewyllys, ac ymostwng iddo. Ac am yr anrhydedd o wneuthur y tŷ iddo, peth nas cafodd erioed i drigo ynddo, ef a dangnefedda à thi."

Aeth y cenhadau â'r genadwri honno at Fendigaid Fran, a chymerodd yntau gyngor. Penderfynwyd derbyn cynnyg Matholwch. Cyngor Branwen iddo a'i cymhellodd i'w dderbyn, rhag i ryfel ddinistrio'r wlad.

Adeiladwyd y tŷ yn fawr ac yn braff, ar unwaith. Ond yr oedd dichell yng