Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghalonnau'r Gwyddyl. Beth a wnaethant ond dodi bach bob ochr i bob colofn o'r can colofn a ddaliai'r tŷ i fyny, a dodi cwd croen ar bob bach, a gŵr arfog wedi ei guddio ymhob un ohonynt.

Yn awr deuwn ar draws Efnisien unwaith yn rhagor. Pwy a ddaeth i mewn i'r tŷ newydd ond ef, o flaen gwŷr Ynys y Cedyrn, ac edrych ar hyd y tŷ, â golygon gorwyllt annhrugarog. A gwelodd y cydau crwyn a hongiai ar hyd y pyst.

"Beth sydd yn y cwd hwn?" eb ef wrth un o'r Gwyddyl.

"Blawd, enaid," eb ef.

Teimlodd Efnisien y cwd nes clywed pen y gŵr, a—dyma i chwi beth ofnadwy— gwasgodd y pen nes bod ei fysedd yn cyfarfod â'i gilydd drwy'r asgwrn. Fel y