Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedasom ar y dechreu, nid dyn oedd Efnisien ond duw,—duw casineb a llid. Ni fuasai unrhyw ddyn yn ddigon cryf i'r gwaith hwn.

Yna aeth at gwd arall a gofynnodd beth oedd ynddo,—

"Blawd," ebe'r Gwyddyl.

Gwnaeth yntau yr un peth â hwnnw, â'r holl ddau gant ond un. Daeth at yr olaf,―

'Beth yw hwn?" eb ef.

"Blawd, enaid," ebe'r Gwyddyl.

Teimlodd arfau am ei ben, ond gwasgodd drwyddynt nes lladd hwn fel y gweddill.

A diweddodd Efnisien y gwaith drwy ganu englyn iddynt.