Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'roedd Mr. Jones yn rhyw led awgrymu y gwnawn y tro i fod yn un o'r Gorfforaeth yma. Wel, 'does gen i fawr o feddwl o honof fy hun, a deyd y gwir yn blaen i chi. Nag o'r gorfforaeth chwaith, ran hynny. 'Dydw i ddim yn meddwl na wnawn i lawn cystal cownsler a'r cyffredin o honoch chi, a gwell hwyrach nag amal i un. 'Roedd Mr. Jones yn deyd mai un fantes fawr o fod yn gyfoethog ydi medru rhoi gwasanaeth yn rhad i'r wlad neu i'r dref. Mae hynny yn ddigon gwir, tae o'n wir hefyd. Cyn belled ag y sylwes i, eu bod nhw yn gyfoethog ydi'r unig beth fedrwch chi ddeyd o blaid y rhan fwyaf o'r bobol sy'n gwasanaethu eu gwlad heblaw y gellwch chi ddeyd eu bod nhw yn gyffredin yn gneud i'w gwlad eu gwasanaethu nhwythe hefyd. Ar yr un pryd, 'dydw i ddim yn deyd na ddylen nhw gael rhyw gydnabyddiaeth am roid cymaint o'u hamser i edrych ar ol eu manteision eu hunen a rhyw dipyn o fanteision pobol erill pan ddigwyddan nhw gofio am hynny. Os byddwch chi yn meddwl ryw dro y medra i wneud rhyw ddaioni ar y Corporasiwn, mi fydda'n barod i drio, cyn belled âg y gwela i yrwan. Ond mae yma lawer o bethe wedi eu deyd yma heno y baswn inne yn leicio deyd gair arnyn nhw. Roedd y gŵr bonheddig gynhygiodd iechyd da'r Brenin cystal a deyd fod eisio crogi'r bobol yma sydd yn erbyn brenhinieth. 'Dydw i ddim o'r un farn â fo. Cyn belled ag y gwela i, mae'r Brenin yma yn