Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ci fy mrawd oedd. O leiaf, felly y buaswn i fy hun yn dywedyd, ond fel arall y dywedodd fy mrawd.

"Ai dy gi di ydi o?" meddwn, pan welais Twrc gyntaf.

"Nage,"ebr fy mrawd, "ei ddyn o ydw i."

Chwerddais.

"Wyt ti yn ame?" ebr fy mrawd.

"Nag ydw i, os wyt ti 'n dweyd felly."

"Well iti baid, hefyd. Tase fo'n gwybod dy fod ti 'n f'ame i, mi fase 'n ddrwg arnat. Mae o fel Cristion—hynny ydi, yn llawer iawn gwell. 'Does yma dim un ohonyn nhw yn y plwy yma cyn onested â fo. Fore ddoe, roedd o newydd ddwad allan o'i gut, ac heb fwyd er bore echdoe, mi wyddwn fy hun. 'Roeddwn i wedi gosod magal yng ngwaelod y cae yma. Aeth gwnhingen iddo tua 'r funud y gollyngais inne Dwrc ya rhydd fore ddoe. Wyddwn i mo hynny ar y pryd, wrth gwrs, ond clywais ryw ysgrech. Heibio i mi â Thwrc fel ergyd. Y munud nesaf, dyna fo yn i ol, a gwnhingen yn i geg. Wedi torri r fagal? Ie. Ond welswn i na'r fagal na'r wnhingen yn dragywydd tase un o'r Cristnogion wedi mynd heibio.

"Ci gwirion ddywedais ti? Bum yn meddwl hynny fy hun. Ond dim perigl! Cefais o yn gi bach, a byddwn yn ei gadw mewn cut mochyn. Tyfodd yn glamp o gi yno, ond neidiodd o erioed dros y wal na'r drws oddi yno. Ryw ddiwrnod, symudais