Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

raid i mi fynd a throi 'r peiriant nithio er mwyn cael gwynt. 'Roedd hi lawn cyn waethed ar yr hen fochyn, a chan na chae o wynt, mae'n debyg, meddyliodd am gael dwr—ne laid, yn hytrach. Aeth i'r llyn i ymdreiglo, a bu yno 'n hir. Rhuthrodd Twrc arno, ond yn ei flinder, syrthiodd Chwerwyn ar ei gefn. Medrodd Twrc ymryddhau, ond cafodd Chwerwyn lonydd. Nid osiodd Twrc ymosod arno wedyn hyd nes sychodd y llaid. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, dyma Dwrc am Chwerwyn, a Chwerwyn am y llyn. Felly y buont drwy'r haf. Wel, daeth amser lladd Chwerwyn. 'Roedd y cigydd wedi dwad, a 'roedd Chwerwyn allan ar y buarth, bron yn ymyl i gut. 'Hel o i mewn, Twrc!' medde finne. Rhuthrodd Twrc ato, ond ni symudai Chwerwyn gam iddo. Pan ai Twrc at i ben o, ceisiai Chwerwyn i ysgythru. Pan ai Twrc at i gynffon, safai yntau 'n llonydd. Twlciodd Twrc o, i geisio i yrru yn i flaen. Ond yn ofer. Aeth o'i flaen gan ddangos i ddannedd a chilio, ond nid ai'r ben fochyn ar i ol o. O'r diwedd, daeth Twrc i ganol y buarth; safodd am funud a'i ben yn gam, a phenderfynodd sut i wneud. Rhedodd, cydiodd â'i ddannedd yng nghynffon Chwerwyn, a dechreuodd dynnu yn ol.

'Wch!' ebr Chwerwyn, a chythrodd i mewn i'r cut!

"Ie, dyna fo iti, 'does yma ddim gwell dyn na fo yn yr holl wlad yma!" ebr fy mrawd.