Cydiodd yntau am ei chanol, plygodd ei ben a chusanodd hi. Yna cerddodd y ddau ymlaen yn ddistaw eilwaith.
"Ble'r awn ni ynte, Dafydd?" meddai hi yn y man.
"Wn i ddim," ebr yntau, "waeth mo'r llawer ble. Ond i'r hen dafarn yr oedden ni wedi meddwl myud, onte? Waeth i ni fynd yno."
"Na waeth!" ebr hithau, gan bwyso yn drymach ar ei fraich o hyd.
Cerddasant ymlaen, a daethant i ddarn o'r ffordd oedd heb dai o bobtu. Ond yr oedd y ffordd yn y fan honno yn llydan, a gwal uchel o bobtu iddi, ac nid gwrychoedd.
"O," meddai'r dyn, "melldith arnyn nhw a'u hen walie hagr!"
"Ie," ebr y ddynes yn ddistaw.
Daethant o'r diwedd i'r hen bentref, ond nid oedd yntau yr un fath a chynt, mwy na'r hen ffordd."
Mae nhw wedi bod yma hefyd," meddai'r dyn. "Ple mae'r hen dafarn?"
"Wn i ddim ym mhle yr yden ni yn iawn," ebr y ddynes. "Mi ddylase'r hen dafarn fod draw yn y fan acw, os nad ydw i yn methu."
"Dylase," ebr yntau, "gad i ni fynd i chwilio ynte."
"Aeth y ddau hyd ystryd weddol lydan, a chroesasant yr afon, hyd bont fawr a'r trydan yn goleuo nes dangos y dwfr yn yr afon islaw yn llwyd-ddu a