Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, ar f'engoch i, mi ddylet wneud rhywbeth! Oes arnat tithe ddim ofn marw yn dy wely, dywed?"

Ar y môr mewn gwirionedd y bu farw y rhan fwyaf o hynafiaid Sion Morys, ac yn y môr y claddwyd hwy. Yn wir, cyn belled ag yr oedd cof yn mynd, un ohonynt yn unig a fu farw ar y lan ac a gladdwyd yn y ddaear, a thrwy ddamwain y bu hynny hefyd.

Yr oedd mam Sion Morys yn ofni'r môr yn arw, ac am hynny, mynnodd fynd i fyw yn ddigon pell oddi wrth y môr cyn geni Sion. Yr oedd hi am ddwyn Sion i fyny i fyw ar y tir, ac yr oedd wedi gwneud cytundeb a'i gŵr cyn ei briodi ei bod hi i gael byw ynghanol y wlad yn mhell oddi wrth y môr, a bod y plant i gael eu dwyn i fyny i fyw ar y tir. Yr oedd yntau wedi cytuno. Hwyrach ei fod yn teimlo yn sicr nad allai dim dorri ar yr olyniaeth forwrol. Prun bynnag, ni bu iddo ef a'i wraig ond un mab, sef Sion, ac yr oedd Sion yn ddeg oed cyn gweled y môr o gwbl. Gwir ei fod er yn blentyn yn hoff iawn o'r dwfr, ac mai ei ddifyrrwch pennaf, pan gai gefn ei fam, fyddai mynd i chware i'r llyn mynyddig oedd heb fod ymhell oddi wrth ei gartref. Pan oedd o tua deg oed, sut bynnag, tybiodd ei fam y gallai fentro ei gymryd gyda hi i Laneigion i gyfarfod ei dad. Yr oedd ei dad heb fod adref ers tair blynedd, ac yr oedd y fam wedi addo y cae Sion fynd i'w gyfarfod pan ddeuai. Daeth y llong o'r di-