Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel llyn a'r dwfr yn chware yn gynnes ar y traeth. Tynnodd Sion Morys am dano, a cherddodd yn araf a musgrell i'r dwfr. Daeth hen deimlad ei ieuenctyd yn ol iddo, ymollyngodd i'r tonnau gan geisio nofio fel o'r blaen, ond yr oedd dyddiau nofio Sion Morys drosodd.

Y noswaith honno cafwyd hyd iddo ar y traeth. Ac fel ei hynafiaid, bu yntau, yr olaf o'r teulu, farw yn y môr.