Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

goreu yn y byd ganddo. Ar hyd y blynyddoedd, ymdrochai bob bore, a nofiai o gwmpas am yn hir er gwaethaf anystwythder ei goes a'i fraich chwith. Yn y prynhawn gwelid ef ar y cei gyda hen forwyr ereill oedd wedi mynd yn rhy hen i ddilyn eu galwedigaeth mwy, ond nad oeddynt mor hoff o'r môr ag ydoedd Sion Morys. O leiaf, ni byddent hwy yn mynd i lawr i'r traeth bob dydd nag yn ymdrochi fel y byddai ef. Llawer ysgwrs a fyddai rhyngddynt ar y cei yn y prynhawn, a llawer son am hen gydnabod ac am bethau wedi digwydd ym mhellter byd flynyddoedd lawer yn ol, pan oeddynt hwy yn eu pwmp.

Ond yr oedd Sion Morys yn mynd yn hŷn ac yn fusgrellach, ac o'r diwedd, aeth i fethu ymdrochi mwy. Yr oedd hynny yn pwyso ar ei feddwl yn fawr, ond yr oedd yn dal ati o hyd i ymlusgo i lan y môr bob dydd, ac yn aros yno am oriau i wylio'r tonnau yn curo'n dragywydd ar y traeth. Un gaeaf, clafychodd, a bu drwy'r gwanwyn heb fedru mynd i lan y môr. Yr oedd hynny yn torri ei galon. Teneuodd yn arw, a chrymodd ei gefn, ac aeth yntau yn ddistaw a hurt ei olwg. Ond fel yr oedd yr haf yn dynesu a'r tywydd yn tyneru, dechreuodd Sion Morys godi allan drachefn, a cheisiodd gerdded tua'r môr fel o'r blaen. Yr oedd y daith yn ormod iddo ar y dechreu, ond o dipyn i beth medrodd un diwrnod yn nechreu haf gyrraedd y traeth. Yr oedd y môr