Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu'r ddau felly yn gyfeillion am flynyddoedd lawer. Byddent gyda'i gilydd bob amser. Os gwelid Dafydd yn unman, gellid bod yn sicr fod Pero yn agos, a lle bynnag y byddai Pero, ni byddai Dafydd byth ymhell. Ni fwytâi Dafydd byth bryd o fwyd heb ei rannu â Phero, ac nid yfai hyd yn oed lasied o gwrw heb gynnyg llymed i'r ci. Nid oedd dda gan Bero mo'r cwrw, ond ni wrthodai byth gymryd arno ei brofi er mwyn plesio Dafydd. Pan fyddai Dafydd yn mygu ei bibell, eisteddai Pero ar lawr o'i flaen i edrych arno, cystal a dyweyd fod arno yntau eisiau pibell, ac o'r diwedd dysgodd Dafydd ef i gario pibell rhwng ei ddannedd. Byddai pobl yr ardal yn ei ystyried yn beth digrif iawn weled Dafydd Tomos a Phero yn mynd bob un a'i bibell yn ei geg. Ni byddai dybaco ym mhibell Pero, mae'n wir, ond byddai'n rhaid iddo ei chael bob amser pan fyddai Dafydd yn mygu.

Un diwrnod, cafodd Pero flas ar ddal cwnhingod. Yr oedd yn bechod ar ffarmwr ddal cwnhingen y pryd hwnnw, a chafodd Dafydd Tomos fraw mawr pan welodd Pero yn dyfod tuag ato a chwnhingen rhwng ei ddannedd. Meddyliodd am saethu'r ci, druan, yn y fan, ond troes ei galon yn sal gyda bod y peth wedi mynd drwy ei feddwl. Tybiodd mai gwell fyddai iddo ei werthu neu ei roi i rywun yn hytrach na'i ladd. Ond ni fedrai ddygymod ychwaith â'r meddwl am werthu