Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pero na'i roi i neb arall. Ceisiodd obeithio na ddaliai Pero ddim rhagor o gwningod, ac nad oedd neb hyd hynny wedi ei weled yn dal rhai. Ond wedi cael blas arni, nid oedd Pero am roi'r goreu iddi. Prin yr oedd diwrnod yn mynd heibio heb i Pero ddyfod â chwnhingen neu ddwy i Dafydd Tomos. Ac ni wyddai Dafydd ar y ddaear pa beth i'w wneud. Meddyliodd drachefn y byddai raid iddo saethu Pero neu ynte ei werthu neu ei roi. Un noswaith, wedi i'r ci ddal dwy gwnhingen a'u dwyn at y ty, aeth Dafydd i'w wely yn dra chythryblus ac ofnus. Yr oedd rhywbeth fel pe'n dywedyd wrtho fod Pero wedi tynnu ar ei ben yr hyn y bu efô yn ei ofni ar hyd ei oes—dialedd y meistr tir. Yr oedd y ceidwad helwriaeth yn sicr o fod wedi gweled Pero yn cario un o'r cwnhingod at y ty, ac felly yr oedd hi ar ben ar Dafydd Tomos druan.

Bu Dafydd yn effro tan y bore, yn ceisio penderfynu pa beth i'w wneud â Phero. Wedi meddwl a meddwl, daeth o'r diwedd i'r penderfyniad mai yr unig beth i'w wneud oedd ei werthu os cai rywbeth am dano, ac os na chai, fod yn rhaid ei roi i rywun. Cododd o'i wely yn y bore wedi penderfynu, ond cyn pen yr awr yr oedd wedi torri ei benderfyniad drachefn.

"Be' gebyst oedd arna i?" meddai wrtho ei hun, "sut na baswn i wedi meddwl o'r blaen am roi cadwyn am ei wddw fo, a'i gadw fo rhag mynd i grwydro?"