Tudalen:Brethyn Cartref.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XI. CATRIN LEI BACH FAWR.

HEN wraig blaen iawn ei ffordd oedd Mari Huws, a rhyfeddol o blaen ei hymadrodd hefyd. Perthyn i'r oes o'r blaen yr oedd hi, rywsut ym mhob peth, ac eto yr oedd ei merch, Catrin, fel petasai wedi ei dwyn i fyny yn y dull diweddaraf a gwychaf ym mhob ystyr. Y gwir oedd mai bywyd caled iawn a gawsai—byw ar fara llaeth a chrystiau sychion, rhedeg yn droednoeth yn yr haf a gwisgo clocsiau yn y gaeaf. Ond yr oedd rhywbeth yn falch yn yr eneth erioed. Hyd yn oed yn droednoeth neu yn ei chlocsiau, yr oedd bob amser yn lân a thrwsiadus, ac yn cerdded o gwmpas fel pe buasai yn ferch sgwier y plas ac nid yn ferch ei weithiwr distadlaf. Fel yr oedd yr eneth yn dyfod yn hŷn, yr oedd yn rhaid iddi fynd i weini, ac felly yr aeth yn ddigon ieuanc hefyd. I'r Plas yr aeth i ddechreu, wrth gwrs, gan fod ei thad yn gweithio ar yr ystad, ac felly yn ei ystyried ei hun radd yn uwch na gweithwyr ffermwyr a labrwyr cyffredin yr ardal. Y mae'n debyg mai oddiwrth ei thad y cafodd y ferch ei balchter, canys yr oedd rhyw fath o falchter yn yr hen ddyn, druan. Fel yr awgrymwyd, ymfalchiai ei fod yn gweithio ar ystad yr Ysgwier, a