Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ymyfhau i deuru na ddanfonwyd mo Apostol y Cenhedlodd i ddeddfu i ferched mwy nag i fedyddio, ac am hynny nad oedd ei gynghorion-o ddim yn gyfaddas i wragedd a gwyryfon, yn enwedig y rhai a anwyd ar ôl y Chwyldroad Ffrengig. Yr oedd erill, gann ofni rhedeg yn y gwddw i apostol, yn ymfoddloni ar gyfeirio at dystiolath yr esponwyr caredig oedd yn dadla fod "Tawed" yn y Roeg yn gyfystyr â Llefared; ac fod yr ymadrodd "Nid wyf yn cenhadu i wraig athrawieuthu" yn sefyll fel hynn cynn i'r hen langce Origen ei gyfnewid: "Nid rhaid i mi gen- hadu i wraig athrawieuthu."

Yr oedd y math o lenoriath a elwir dysceidiath gain wedi mynd yn isel yn nyddia Bwth, a'r bobol yscrifengar, bron i gid, wedi troi i sponio a mân-feirniadu; a chann na byse sponiad synhwyrol ddim yn ddigon dyddorol i fod yn werthadwy, fe fydde'r esponiwr olaf ar y maes yn ceisio bod yn saith gwirionach na phob esponiwr a fu o'i flaen. Pa ffolineb neu anfoes bynnag a fydde mewn bri ar y pryd, fe fydde rhiw esponiwr Protestanadd neu gilidd yn barod i ystumio Scrythyr yn union er mwyn ei amddiffyn-o.

Er engraff, pan ofynwyd i bregethwr oedd yn chwennych ennill pleidebau ac ewyllys da y gwragedd gwrywadd, pa ham, tybed, na ddewisasid rhiw wraig yn archoffeiriad ne'n apostol, fo attebodd, heb un dyferyn o afiath ar ei wefus nac yn ei lygad, mai merch yn ddiau ydoedd y pennaf o'r apostolion, pe amgen y galwesid ef yn Apostol Pedwar ac nid yn Apostol Peder!

Fel dywedesi, blino cynn hir a naeth pobol ar weinidogath angylion beniw, a blino a naeth yr angylion eu hunen; canys pann welodd y rhai priodadwy yn eu plith fod y meibion yn barottach