i'w cammol-nw nag i'w caru â chariad tragwyddol, nw a ddechreuson warchod gartre, tann obath cael eu gweled yn well yn y dirgel nag yn yr amlwg. Ac yn wir, fe a ddigwyddodd iddynw yn ôl y ddihareb, yr honn sy'n dwedyd fod yn haws i ddyn gael hyd i wraig gymmwys wrth ola cannwyll frwyn nag wrth ola nwy neu drydan.
Ond os beio yr ydwi ar y Fyddin Iach, pa ham, meddwch, y galle-hi fod yn niweidiol i Brotestaniath ac yn fanteisiol i Gatholigath?
Fel hynn: hi a wanhaodd yr hen gyfundeba Protestanadd trwy ddwyn oddi arnynw y werinos —a chofier fod y rheini yn eppilio cystal â phobol gallach; hi a ddyscodd ei heuloda i ufuddhau i'w penneuthied yn lle gweithredu yn ôl eu mympwy a'u barn briod, ac a'u dygymmododd-nw ag unbennath eglwysig; canys yr oedd Bwth, a'i fab, a'i fab ynta, bob un yn fwy o unben na'r Pab o Rufan, ac nag un ymerawdwr a fu'n teyrnasu yn yr oesodd diwedda; ïe, hi a ddygymmododd yr euloda â'r enw Pab; canys er mai "Tad" y Fyddin y galwe Bwth I ei hun, etto pann aeth y plant yn ddigon dyscedig i wybod mai tad ydi meddwl y gair Lladinaidd pab ne papa, nw a droison i alw Bwth II yn gyntaf oll yn bapa, ac wedyn yn bab; ac o barch i'w briod-o (ac efalle o fig i Fair y Forwyn), nw a'i galwason hitha yn famma, ac yna yn babes, yn lle yn fam fel cynt.
Pann aeth y plant hynn yn dippin o wŷr mewn dyddiau ac mewn dyall, nw a ddechreuson flino "chwara sowldiwrs" i ogoniant "capten mawr eu hiachawdwriath", ac a feddyliason y bydde'n llai cywilyddus iddynw gymmeryd eu llywodreuthu gann bab a etholsid, o blegid rhagoroldeb