Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei ddawn a'i ddysc a'i dduwioldeb, gann hynafgwyr parchediccaf yr Eglwys, nag ymostwng i bob rhiw gyntafanedig gwael a gweddol o dylwyth Bwth. Er buddioled ydi unbennath etifeddol mewn gwladwriath, nw a farnason fod unbennath etholedig yn fuddiolach yn yr eglwys.

Dyma beth arall ag oedd yn dwyn y Fyddin Iach, er cynnifer a chimmin ei beia, yn nes nag un blaid Brotestanadd arall at y Fam-Eglwys, sef, mai rheola'n hen gymdeithasa cenhadol ni yn gymmyscedig â nifer o reolau a gymmerwyd o Lawlyfr Milwrol y Cadlywydd Wolseley, oedd Rheola Discybleuthol y Fyddin.

Mewn un peth, yr oedd y Fyddin Iach yn fwy Protestanadd nag odid un blaid arall o'r hereticied: 'd oedd ganddi ddim offeiried nac un math o weinidogion urddedig. Ond nid oedd hynny yn ei gneyd-hi'n fwy anhawddgar gann y Catholigion. Gann nad oedd iddi offeiried, 'd oedd-hi ddim yn honni bod yn eglwys; a chann nad oedd-hi ddim yn eglwys, 'd oedd-hi ddim yn rhyfygu gweinyddu'r sacramenta. Yr ydan ni, y Catholigion, yn gallu mawrygu cyssondeb hyd yn noed mewn Protestanied; a pha Brotestanied morr gysson â'r rhai sy'n di-ystyru urddau, ïe, ac urddas hefyd?

Erbyn hynn, y mae'n wir fod yr holl Brotestanied sydd ar wascar yn gysson â nhw'u hunen yn y peth yma; canys pann ddechreuwyd dyscu rhesymeg yn yr yscolion beunyddiol, nw a ganfuon mai gwrthun o beth oedd iddyn nhw gredu mewn offeiried, mewn ordeinio, mewn cyssegru ac mewn eglwys. Trwy eynnwyr natturiol, y mae'n ddiau, ac nid trwy ddysceidiath, y dyallodd Bwth I mai offeiriadath ffugiol oedd offeiriadath Brotestanadd, ac nad oedd pob "eglwys" Brotestanadd yn ddim amgen na byddin filwrieuthus.