Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oni byse fod Bwth morr chwannog i neuthur ei elusen, ei weddi a'i ympryd, yng'ŵydd dynion, mi a ddywedaswn mai o ledneisrwydd y peidiodd-o â chyfeiliorni yn ffordd Cora, a'r Calvinied, a'r Lutheried, a'r Cranmeried, a'r Methodistied. Er y byse gneuthur eglwys newydd, ac ordeinio offeiried, yn rhwystro i'w fyddin-o gynnyddu; etto, y mae'n ddiamma y byse hynny yn peri iddi fyw yn hwy, ac yn ei chadarnhau fel sect.

Y mae hanes y Methodistied, yn arbennig, yn egluro hynn; canys cynn gynted ag yr ymffurfiasonw yn gyfundeb gwahanedig er mwyn boddloni trachwant y cynghorwyr diurddau am goeddusrwydd a chadach gwynn, fe arafodd eu cynnydd ac fe leihaodd eu dylanwad yn ddirfawr; er hynny, fe fu'r hynn a'u hattaliodd-nw rhag tyfu yn gymmorth iddynw i fyw, yn ystyr isa'r gair; canys wedi iddynw godi capelau a cholegau a thrysorfeydd, yr oedd yn anodd gann y rhai oedd yn cael budd oddi wrth y pethau hynn ail-ymuno ag Eglwys Loiger heb fynnu sicrwydd y caffenw wrth hynny fwy nag a adawenw. Er fod Eglwys Loiger, erbyn dechra'r ugeinfed canri, wedi mynd yn dra thebig i Eglwys Rufan, a'r Methodistied, a'r Ymneilltuwyr erill, wedi mynd yn debig i Eglwys Loiger, etto, o achos rhwystrau ariannol a hunanol, fe aeth llawer blwyddyn heibio cynn i'r afradlonied hynn ymostwng yn ddiammodol i'r hen Fam-Eglwys.

Ond nid ordeiniodd Bwth offeiried yn ôl urdd Melchisedec nac Aron. Nid adeiladodd y Fyddin Iach ddinas iddi ei hun, eithyr trigo a naeth-hi mewn lluestai; ac yr oedd ei bod-hi'n fyddin faes, ac morr symudol, yn ei gneyd-hi ar unwath yn fwy gorchfygol ac yn fwy gorchfygadwy hefyd. Yr oedd ei grym hi yn ei gwendid, a'i gwendid