yn ei grym. 'D oedd y swyddogion yn colli nemmor wrth ei gadael-hi; a chann fod yr holl drysora yn nwylo eppil Bwth, yr oedd ymchwaliad y Fyddin yn hytrach yn elw nag yn golled i'r rhain.
Y mae'n ddiamma y byse'r Fyddin wedi darfod yn gynt nag y gnaeth-hi, oni byse i Bwth I yn ddoeth iawn ei throi-hi cynn hir yn Gymdeithas Gymhorthol, trwy sefydlu noddfeydd a gweith- feydd a threfedigeutha ar gyfer pobol reidus a di-waith, yn ôl cynllun a gyhoeddesid cynn hynny gann y Prif-archescob Manning. Er hynny, y mae clod am gyflawni'r cynllun hwnnw a'i ddwyn 1 ben yn perthyn yn bennaf i Bwth ei hun, yr hwnn, er nad oedd-o na duwinydd nac athronydd na llenor, oedd yn un o'r trefniedyddion goraf yn Lloiger.
Mi a ddylwn ddweyd fod y Prif-archescob Manning a'r Penllywydd Bwth yn grynn gyfeillion; ac os nad oedd y ddau yn dyall eu gilidd, y mae'n amlwg erbyn hynn fod un o'r ddau yn dyall y llall, a'i fod yn gneyd offeryn o hono i hyrwyddo Catholigath. Gann fod rhagfarn y rhann fwyaf o'r Protestanied yn erbyn Catholigath heb ddarfod, ni allase'r Prif-archescob roi ei gynllun ar waith y pryd hwnnw heb ddirymu ei amcan ei hun a dadguddio'i fwriad i adsefydlu, mewn ffordd gwmpasog, fynachlogydd yn y tir. Felly ymfoddloni a naeth-o ar gefnogi Booth i godi mynachlogydd wrth enw arall mwy Protestanadd, a thrwy arian Protestanadd, am ei fod-o'n gweled eu bod-nw'n ogyffelyb eu natur i'r hen fynachlogydd Catholig, ac fod iddynw yr un amcan; ac am ei fod-o hefyd yn rhag-weled y doe yr adeiladau a'r tirodd, os nad yr arian, i gid yn y mann i feddiant y Catholigion.