Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A hynny a fu; canys yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad ysprydol Bwth III fe ymostyngodd y fintai olaf o'r Fyddin Iach i'r Pab o Rufan; ac wedi marw o'r Bwth hwnnw, trwy yfed diodydd dirwestol rhy gryfion, fe roes ei blant-o eu hunen a'u harian i'r Eglwys Gatholig.

Y mae hi'n bryd imi bellach enwi achosion neilltuol cwymp Protestaniath yng 'Hymru. Eu henwi, meddaf, am y palle'r amser imi dreuthu nemmor ar chwaneg na dau ne dri ohonynw.

Dyma'r achos penna, yn ddiamma: sef diystyrwch Protestanied Cymru o iaith eu tada. Wrth beidio â bod yn ieithgar, yr oeddenw o anghenraid yn peidio â bod yn wladgar, ac yn peidio â bod yn genedlgarol; canys y Gymraeg oedd yn gneyd y rhann honn o Ynys Prydan yn Gymru, a'r Gymraeg oedd yr un ffunud yn gneyd ei phobol-hi yn Gymry. Pe na neuthe'r Cymry ymdrech benderfynol i gadw ac i adfywio'r hen iaith, ni fyse Wales yn ddim amgen nag enw deuaryddol, megis Cumberland, ar randir Seisnig. Fe hawliodd y Gwyddelod y Werddon am ei bod-hi'n ynys; ond fe hawliason ni Gymru, nid am fod rhyngoni â Lloiger nac afon na mynydd, nac am ein bod yn wahanol ein llun na'n lliw, ein crefydd na'n harferion, i'r Seuson, eithyr yn unig am ein bod yn wahanol ein hiaith iddynw.

Ein hiaith sy'n ein gneyd ni yn “' bobol briodol: hynny ydi, yn genedl. Y mae'n wir ein bod-ni yn wahanol i'r Seuson mewn rhai petha erill; ond y mae'r holl fân wahanieutha yn dyfod o'r gwahaniath mawr sy rhyngoni â nw mewn iaith. O'r hynn lleia, y gwahaniath ieithol sy'n ein cadw-ni yn wahanol mewn petha erill; a phe peidiase'r gwahaniath hwnnw fe a ddarfyse pob