Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwahaniath arall cynn penn tair cenhedlath. Yr oedd rhai o

DIC-SION-DAFYDDION CYFNOD YR ACHOSION SEISNIGEIDDIOL

yn addef y peidie'r Cymry â bod yn genedl pann y peidid â siarad Cymraeg; ac yr oeddenw yn ddigon llygredig i deuru yn ddigwilidd mai bendith ac nid melltith a fydde hynny. Y mae'n dda i'r giwed hynny nad oeddenw ddim yn byw yng 'Hymru yn amser y Chwyldroad; onid e, marw o farwolath bradwyr a fyse'u rhann-nw.

Ond pa ham yr ymofidiwni o blegid na welsoni mo'u dienyddio-nw, a ninnau'n gwybod y cospir yn dost yn y byd arall bob bradwr ag yr esceuluswyd ei gospi yn y byd hwnn? Y mae gwadu priodiaith yn bechod mwy annaturiol na gwadu Crist. Y mae yn rhyfedd yn ein golwg ni fod neb erioed wedi teuru nad oes purdan ac uffern yn y byd arall; eanys y mae rheswm ei hun yn dwedyd y rhaid fod tân wedi ei gynna yn rhiwle ar gyfer bradwyr anedifeiriol.. Os bydd Achoswyr Seisnig- ath yn gadwedig, trwy dân poeth iawn y byddanw yn gadwedig.

Yr oedd gann y Cymry ag oedd yn byw yn oesodd y caethiwed cenhedlig riw eseus am fod yn anwladgar; am fod Cymru, y pryd hwnnw yn enwedig, yn wlad rhy fechan i bawb ei charu trwy aros ynddi; ac yr oedd ganddynw yr un ffunud riw eseus am fod yn anghenedlgarol; canys yr oedd y Cymry, er pann y gwthiodd y babes Elspeth ei Phrotestaniath arnynw, wedi mynd yn genedl anhawddgar, ond nid oedd ganddynw ddim escus am fod yn anieithgar; canys yr oedd ganddynw un o'r ieithoedd cywreiniaf ac ystwythaf ar wyneb y ddeuar, pe bysenw yn