ymdrafferthu i'w dyscu-hi; ac er gorfod i lawer ohonynw gefnu ar eu gwlad, 'd oedd raid i neb ohonynw gefnu ar ei iaith; canys y mae iaith yn fwy cludadwy na thir, ïe, nag arian hefyd. Yn wir, y Gymraeg oedd yr unig berl gwerthfor oedd gann y Cymry rhwng yr adeg yr ymwrthodasonw â'r grefydd Gatholig a'r adeg y derbyniasonw-hi drachefen.
Y mae yn deg imi adde na fu'r Catholigion eu hunen ddim morr gefnogol i iaith y Cymry ag y dylsenw fod, ar ôl dechra o'r Seuson ymyryd â matterion y Dywysogath; ac y mae yn ddi-amma i hynny lachau gafal y Cymry yn eu hen grefydd dalm o amser cynn y Chwyldroad Protestanadd; ond ar y Seuson Catholig ac nid ar yr Eglwys Gatholig yr oedd mwyaf o fai; canys y nhw, er mwyn amcanion gwleidyddol, oedd yn gwthio cynnifer o estronied i fywioleutha Cymreig. Yr oedd bai nid bychan ar y Llys Rhufeinig hefyd; canys pann y sefydlwyd dwy archescobath y naill yn Neheubarth a'r llall yng 'Ogleddbarth Lloiger, fe ddylsid ar yr un pryd sefydlu archescobath arall yng 'Hymru. Fe fyse hynny yn fanteisiol i annibyniath Cymru, nid yn unig yn grefyddol, ond hefyd yn wladol; ac fe fyse'r Cymry yn amharottach i ddynwared y Seuson yn eu gwaith yn ymwrthod ag unbennath y Pab. Amryfusedd dybryd oedd peidio â gneyd hynny; ac fe orfu i Gymru, ac i'r Eglwys Gatholig ei hun, ddioddef o'i blegid dross lawer oes.
Gann nad oedd rhwng dyfodiad Awstyn Fynach â'r Chwyldroad na thrydaniadur na threna i ddwyn y pell yn agos, yr oedd yn hawdd i Baba'r cyfnod hwnnw, er eu bod yn anghyfeiliorn ynghylch pyncia cred, gyfeiliorni yn ddirfor yn eu barn am gyflwr Cymru, o rann iaith a theimlad,