ac o rann ei pherthynas â Lloiger, yn enwedig gann eu bod-nw yn barnu pob peth ar bwys adroddiada urddasolion Seisnig. Fe geisiodd y Paba bob amser, ar bwys y tystioleutha a ddygid ger eu bronn, neuthur barn deg rhwng gŵr a gŵr a rhwng cenedl a chenedl; ond fe naeth rhai ohonynw yn ddifwriad gam â Chymru am nad oeddenw yn gwybod cimmin am dani â Phaba diweddarach.
Ond os cyfeiliornodd yr Eglwys Gatholig mewn tywyllwch, fe bechodd yr Eglwys Brotestanadd yn erbyn goleuni. Er fod honn mewn cyfleustra i wybod teimlad y Cymry, ni pharchodd-hi ddim arno. Yr oedd hyd yn noed ei henw-hi yn taflu sarhad arnynw—Eglwys Loiger! Y fath fargen wael i'r Cymry—Eglwys Loiger yn lle Eglwys y Byd: Eglwys y Seuson yn lle Eglwys y Pawb!
Ond pa fodd y gall eglwys gwlad a chenedl neilltuol fod yn eglwys gatholig ne gyffredinol? a pha fodd y gall eglwys fod yn eglwys wirioneddol, os na fydd-hi yn gatholig? Sect ydi pob eglwys neilltuol; ac er darfod sefydlu Sect y Seuson trwy gyfrath, nid oedd iddi fwy o awdurdod na'r secta erill, a sefydlwyd wrth fympwy eu cychwynwyr. Ond yr oedd y Cymry, wrth ymuno â sect eu darostyngwyr, heb law gneyd eu hunen yn euog o heresi, yn amharchu eu hunen. Gwybyddwch, os na wyddochi eisys, ddarfod estyn cortyna'r sect honn hyd i Gymru, nid yn unig er mwyn ymwelwyr Seisnig a Chymry Seisnigadd, ond hefyd er mwyn yr holl genedl.'Dalle fod i'r gyfriw sect gann hynny ddim gwell amcan nag oedd i'r Achosion Seisnigeiddiol, a sefydlwyd yn ddiweddarach gan Seisgarwyr Ymneilltuol.