Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pa ham, er engraff, yr aflwyddodd yr Hugonotied, sef hen Brotestanied Ffrainge, a nhwtha unwath cynn lliosoeced â'r Catholigion yn y wlad honno? Onid am iddynw ddangos eu bod yn caru'w sect yn fwy na'u cenedl? Y mae'r Eglwys Gatholig, er mwyn bod yn Gatholig mewn gwirionedd, wedi amcanu erioed neyd cyfri o reddwon[1] a theimlada cenhedlig: a rhag diystyru teimlada, a hyd yn noed ragfarna, y gwahanol genhedlodd, yn un peth, y bu yn wiw ganddi arfer ei gwasanath mewn iaith farw a chyffredinol; a rhag hynny hefyd, mewn rhann, y rhyngodd bodd iddi neyd yr offeren yn brif wasanath; canys yn gimmin â bod yr offeiriad yn y gwasanath hwnnw yn llefaru wrth y gynnulleidfa trwy gyfres o weithredodd arwyddochaol, a hysbys i bob eulod Catholig, y mae-o morr ddyalladwy i bawb o bob gwlad â phe bydde-fo yn llefaru wrth bob cenedl yn ei hiaith ei hun.

Ond er gneyd ei gora, fel hynn ac fel arall, i briodi crefydd â greddw ymhob gwlad ac ymhob oes, hi a fethodd rai gweithia, fel yr awgrymisi o'r blaen; a hyd yn noed pann y tybid ei bod-hi yn methu, fe fydde hynny ei hun yn peri agos gimmin o niwed iddi â phe byse-hi wedi ei phrofi yn euog. Fe dybiwyd unwath ei bod-hi yn gwrthwynebu undeb ac annibyniath yr Ellmyn; ac ar y dybiath honno y marchogodd y pab Luther ar eî ymgyrch ry lwyddiannus yn erbyn y Pab o Rufan. Fe dybiwyd fod y Frenhines Elspeth yn fwy cenedlgarol na'r Frenhines Mair; ac o achos y dybiath anghywir honno y cwympodd Catholigath gyd & Mair, ac yr ymddyrchafodd Protest-

  1. Greddw-on:Greddf-au. Y mae tafoda'r Cymry eisys wedi troi meddf, gweddf, gwddf, &c., yn feddw, gweddw, gwddw, &c.