Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aniath gyd ag Elspeth. Y mae gwybodath hanesyddol a phrofiad chwerw wedi argyhoeddi'r Catholigion yn fwy nag erioed na lwydda eglwys Crist ddim yn hollol, os na bydd-hi ar unwath yn gatholig ac yn genhedlig—yn gatholig er mwyn ennyn parch, ac yn genhedlig er mwyn ennyn cariad.

Am "Eglwys" Loiger yng 'Hymru, nid oedd hi na chatholig na chenhedlig..'D oedd-hi ddim yn gatholig, am mai sect ddiweddar oedd-hi, n sect cenedl neilltuol. D oedd-hi ddim i'r Cymry yn genhedlig: hynny ydi, 'd oedd-hi ddim yn Gymroadd, am mai sect y genedl Seisnig oedd-hi, yr honn genedl yr oedd gann y Cymry, tra y buwyd yn eu cadw-nw yn gaeth, lai o achos i'w charu nag un estror-genedl arall.

Er fod gann y sect sefydledig gywirach credo a gweddeiddiach gwasanath nag oedd gann y secta ansefydledig; etto, er gweuthaf y rhagorieu'ha hynn, ebrwydd y gorfu'r secta erill arni yng 'Hymru; a hynny, yn llawer, o achos eu bod-nw yn y dechra yn fwy Cymroadd na hi. 'D oedd y rheini chwaith ddim yn Gymreigadd eu gwreiddin, am hynny nid mawr a fu'w cynnydd hwytha. O'r adeg y diddymwyd Catholigath, nid ymdeunodd un grefydd dross Gymru oll hyd oni chododd

SECT NEWYDD Y METHODISTIED;

a chann fod honn yn sect Gymreig—yn racy of the soil, fel y dywed y Sauson hi a rwygodd ffynhona'r dyfnder mawr (a ffenestri'r nefodd hefyd a agorwyd, medd rhai); ac ar wyneb y rhyferthwy hwnnw o deimlad Cymreig, fe'i ddyrchafwyd-hi yn ebrwydd goruwch yr holl secta erill.