feddwl eu bod wedi ymledu ac ymgadarnhau cimmin fel nad oedd dim perig iddynw gwympo mewn byrr amser i blith cenhedlodd o'r drydedd radd; a chann fod y genedl Seisnig yn alluog odiath i beri cynnen a rhyfel rhwng mân genhedlodd â'u gilidd, ac yna, i'w gorchfygu-nw yn eu gwendid, ac i arosod eu hiaith arnynw, yr oedd-hi yn hyderu y bydde'r Seusneg ym'henn ychydig oesodd yn iaith gyffredinol. I genedl na chododd o honi, yn ôl Hegel ac erill, ddim un metaphysegwr neu elfonwr, yr oedd y cyfriw hyder plentynadd yn ddigon natturiol; a hynny yn fwy, wedi i'r Dyscawdwr Kirchoff o Halle gyhoeddi tua'r flwyddyn 1890 fod rhifedi siaradwyr prif ieithodd y byd y pryd hwnnw fel hynn:—Y Sjinaeg yn 400,000,000; yr Hindwstanaeg dross 100,000,000; y Seusneg yn agos i 100,000,000; y Rhwsiaeg yn 70,000,000; a'r Ellmynaeg yn 57,000,000,—heblaw y rhai oedd yn ei llefaru-hi yn yr Amerig, &c.
Ond yr oedd y breuddwydwyr Seusnig hynn heb ystyried fod y Rhwsiaeg yn y Dwyran, a'r Ellmynaeg yng 'Ogledd Amerig, yn cynnyddu yn gyflymach na'r Seusneg; ac fod un peth mawr arall oedd yn cynnyddu yn fwy na'r tair iaith ynghyd, sef, yr awydd am annibyniath cenhedlig, yr hwnn awydd oedd yn cymmell pob cenedl; gadw ei hiaith ei hun. 'D oeddenw chwaith ddim yn ystyried mai o blegid fod y Seusneg yn iaith cenedl orchfygol ac eang ei llywodrath, ac nid o blegid ei bod hi yn iaith ragorol, yr oedd cynnifer o bobol o genhedlodd erill yn ei dyscu.
Yn awr, pann y collodd y Seuson eu henwog- rwydd, a'u harglwyddiath ar genhedlodd erill, fe beidiodd estronied yn gyffredin â dyscu eu hiaith-nw. iaith hwylus iawn, y mae yn wir,