Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O'r pryd hwnnw hyd y Chwyldroad Cyffredinol fe fu yng 'Hymru ddau fath o Ddic-Siôn-Dafyddion, sef Dic-Siôn-Dafyddion oedd yn ceisio lladd y Gymraeg trwy ddwedyd yn ei herbyn-hi yn Gymraeg a Seusneg, a Dic-Siôn-Dafyddion oedd yn ceisio ei lladd-hi trwy ei chammol yn Seusneg yn unig; a'r olaf oedd y dosparth perycla.

Heb law dylanwad y dynion mwya cyffredinol eu gwybodath, dyma beth arall a gywilyddodd y werin bobol i gadw eu cenedligath, sef, yr ymdrech a'r aberth a nae y Gwyddyl er mwyn mynnu'w hawlia cenhedlig. Ond y mae yn deg adde mai Gladstone a Seuson erill a lwyddodd i neyd ymddygiad y Gwyddyl yn gymmeradwy yng'olwg corff y Cymry. Seuson a'u dyscase-nw o'r blaen i gashau eu cefndyr o achos y gwahaniath crefyddol oedd rhyngddynw, a Seuson a'u dyscodd-nw drachefn i ymgyfathrachu â'u cefndyr er gweutha'r gwahaniath crefyddol hwnnw; ond wedi dyfod o'r perthynasa hynn i nabod eu gilidd, 'd allodd gwleidyddion Lloiger byth mwyach eu gyrru-nw yn benben. Gan fod y ddwy genedl o dann yr un ddamnedigath, a'u bod ill dwy gyd â'u gilidd yn wannach na'r genedl Seisnig, nw a welson mai trwy ymgadw ynghyd y gallenw weithio allan eu hiachawdwriath. Yr oedd y ddwy genedl wedi llwyddo i fynnu rhiwfaint o ymreolath er ys talm; ond byth ni lwyddasenw i gaffal eu hannibyniath pe na byse i Loiger ddi- rymu ei hun wrth ymguro yn aflwyddiannus yn erbyn Rhwsia a'r cenhedlodd Lladinig.

Fe fu'r frwydyr ola ar wastadedd Belg—Armagedon Ewrop—yn ergid aneule nid yn unig i benrhyddid Protestanadd ond hefyd i gaethwasanath cenhedlig. Yr oedd y Seuson, fel y Rhufeinied a'r Speunied o'u blaen, wedi mynd i