Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddangos yn y newyddiaduron Seisnig: a rhad enwogrwydd yn unig oedd euloda

KUMREE FIDD, Y WELSH NATIONAL SOCIETY, Y WELSH FEDERATION SOCIETY, &c.,

yn ei geisio. Yr oeddenw yn yscrifennu hefyd agos gimmin ag yr oeddenw yn ei siarad o blaid petha Cymreig; ond gann mai yn Seusneg y byddenw yn yscrifennu, yr oeddenw yn discwil i olygwyr papura a llyfryna Cymreig droi eu hyscrifa-nw i iaith y wlad; ac yr oedd y rheini, er mwyn cael rhiwbeth i fritho'r dalenna, yn ddigon ynfyd i neyd hynny; er eu bod yn gwybod yn burion na wastraffe cymmin ag un Cymro chweuthus mo'i amser i ddarllen cyfieithiad an- ystwyth o ribi-di-res Seisnig a scrifensid yn arddull y Daily Telegraph.

Gann na fynne'r Cymry hynn ddim ymdrafferthu i ddyscu Cymraeg gweddol gymmeradwy eu hunen, prinn y rhaid dweyd na fyddenw ddim yn dyscu Cymraeg i'w plant, ac na fydde y rhan fwyaf ohonynw ddim yn mynd i addoldai Cymreig, chwaith. Er fod y conachod rhagrithiol ac anghysson hynn yn ail-adrodd amryw betha a glywsenw'u dweyd gan Gymry cywir, etto, gann eu bod yngyfriw rai ag oeddenw, 'd allasonw ddim gneyd cimmin o les i Gymru a neuthonw iddyn nhw'u hunen.

Y mae y dynion eiddewig hynn, sy'n ymgripio i amlygrwydd ar hyd cefna rhai cadarnach, erioed ar y ddeuar; ac os na wyddanw beth sydd dda, nw a wyddan cystal â neb beth a lwydda; ac y mae eu bod nhw wedi ymgasclu morr gynnar i gydweithio â'r Cymroeuthwyr yn arwyddo fod Cymroath wedi cynnyddu yn gyflym yn y tir.