Cyfandir na chann y Seuson, ac fod dyscedigion Ffrainc a'r Alman yn cyfri Cymro dwyieithog yn fwy dyscedig o'r hanner na Sais uniaith. Hyd yn noed yn Athrofeydd Seisnig Caer-grawnt a Rhydychen, yr oedd Cymry ifingc yn dyscu digon ï synio yn uwch am eu hiaith a'u llenoriath eu hunen, er cynnifer o betha oedd ono i'w temtio-nw i synio yn is am danynw.
Yn awr, pann y canfu gwerin Cymru fod gwŷr ifinge oedd wedi gweld y byd ac wedi astudio llenoriath y prif genhedlodd, yn mynd yn llai Seisnigadd ac yn fwy Cymroadd mewn canlyniad i'r hyn a welsen ac a glywsenw, hi aeth i feddwl nad oedd Seisnigath ddim, o angenrhaid, yn beth eang, ac nad oedd Cymroath ddim o anghenraid yn beth cyfing; ac y bydde yn anrhydeddusach iddi gann hynny ymwascu at Gymry amryw-ieithog nag at Ddic-Siôn-Dafyddion hanner-ieithog.
Er mwyn dangos ichi ebrwydded y cynnyddodd dylanwad Cymroath ar y cyffredin, mi a ddylwn ddweyd wrthochi fod llawer hyd yn noed o Ddic-Siôn-Dafyddion cynn y flwyddyn 1890 wedi ymuno â chymdeithasa hanner Cymreig o fath Kumree Fidd; a'u bod â thafod ac â phinn yn cammol y Gymraeg a'r ymddeffroad Cymreig—yn Seusneg.
Yr oeddenw, er mwyn ennill cyhoeddusrwydd, ac er mwyn marchogath ar y teimlad Cymreig i bwyllgora, i gynghora, ac i'r Senedd, yn ym- ostwng i ddibennu pob arath trwy ddwedyd mewn Cymraeg go ddyalladwy: "Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Ond dena'r cwbwl; canys pe byse'r arath yn Gymraeg i gid ni fyse gobath iddi gael