Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

siarad Cymraeg yn rhwydd ac yn gywir; yn hwtio pob Dic-Siôn-Dafydd, a phob Cadi-Siân-Dafydd, a fynne lefaru ne ganu yn Seusneg mewn cynnulleidfa Gymreig; yn diystyru pob rhybudd cyfreithiol a gyhoeddid yn Seusneg; yn tynnu i lawr ac yn dinistrio pob ystyllen ag arni enw Seisnig ar hewl ne dre yng 'Hymru; yn dileu pob enw Cymreig a fydde wedi ei gam-lythrennu yn y gorsafodd; ac yn taro i lawr bob gwesyn trên a weudde Pen-all yn lle Pennal, a Lenvervcckn yn lle Llanfar Fechan. Yr oeddenw hefyd yn annog ac yn cynnorthwyo'r Cymry i ymsefydlu yn sirodd Caer, Amwythig, Henffordd, &c., er mwyn ehangu terfyna Cymru tua'r dwyran, ac yn gwahoddi Cymry cyfoethog o'r Amerig i gychwyn gweithfeydd o bob math yn eu hen wlad, er mwyn attal arian a gweithwyr rhag treiglo i Loiger.

Yr oeddid wedi cychwyn gneyd rhai o'r petha hynn morr fora â'r flwyddyn 1880, sef cynn bod sôn am y Cyfammodwyr Cymreig. Hyd riwbryd rhwng y flwyddyn honno â'r flwyddyn 1890, fe barhaodd Seisnigath i gynnyddu; ond o hynny allan hi a leihaodd. 'Tua'r pryd hwnw fe ddechreuodd crynn nifer o Gymry dreulio'u gwylia ar y Cyfandir; ac fe aeth rhai gwŷr ifince ono i fyw ac i gael eu haddyscu mewn ieithodd a llenoriath dramor; ac o weled a gwybod mwy nag a allasenw'i weled a'i wybod yn Ynys Prydan, nw a beidiason â meddwl nad oedd na chenedl na iaith na llenoriath o fath y rhai Seisnig. Yn wir, braidd na themtiwyd-nw ar ôl hynny i synio am bobol a phetha Seisnig fel y bydde Dic-Siôn- Dafyddion yn synio am bobol a phetha Cymreig. Heb law hynny, nw a welson fod iaith a hen lenoriath y Cymry yn fwy eu bri gann genhedlodd y