Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ôl arfer y secta, trwy gefnogi'r dosparth cryfaf ar y pryd yn erbyn y dosparth gwanna, pa un bynnag ai y cyfoethogion ynte'r tlodion, ai perchenogion tir ynte deilied tir, ai y cyflogwyr ynte'r cyflogedigion, a fydde'r dosparth cryfa. Ennill ymddiried pob dosparth trwy ennill ffafar y genedl oedd ei hamcan hi; ac wrth neuthur lles i'r genedl yr oedd-hi yn gneuthur cyfiawnder i bob dosparth ohoni. Yn gyttunol â hynn, ni fydde-hi odid byth yn ymyryd â helyntion dosparthol; ond pa beth bynnag a neid tuag at gyfuno'r Cymry yn genedl, a'u cadw rhag ymgolli yn y Seuson, hi a gefnoge hynny yn ddihafarch. Hi a ennillodd serch y dosparth puraf o Gymry y cyfeiriwyd ato, yn gyntaf oll trwy gydnabod cyfreithlondeb gweithredoedd

Y CYFAMMODWYR CYMREIG;

trwy gyflogi cyfreithwyr i'w hamddiffin, pann erlynid-nw; a thrwy dalu eu dirwyon pan y cospid-nw. Cymdeithas o wŷr ifince wedi ymdynghedu i ddileu o'r Dywysogath holl olion Seisnigath oedd y Cyfammodwyr hynn. Yr oedd y rhain yn nac-hau siarad Seisneg ag un Sais a fydde wedi byw dross ddwy flynedd yng 'Hymru; yn nac-hau siarad Seisnig mewn na Senedd na Chyngor na brawdle nac ymchwilfa nac mewn unriw swyddfa gyhoeddus; yn nac-hau dweyd eu neges yn Saesneg mewn na gorsa na siop nac unlle arall; yn nac-hau yscrifennu llythyra Seisnig at fasnachwyr yn Lloiger; yn ymgadw rhag darllen un hyspysiad Seisnig nac un bil Seisnig a yrre y rheini iddynw; yn ceisio cadw allan o bob rhiw swydd gyhoeddus bob estron a fydde heb ddyscu iaith y wlad; yn ymwrthod â phob ymgeisydd seneddol a fydde'n analluog i