Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Truenus i'r eitha a fyse cyflwr Cymru yn yr amser hwnnw, pann oedd yr ymbleidia crefyddol yn ymfalurio, o achos eu hanffyddlondeb i'r iaith a'r efengyl yr ymddiriedodd Duw iddynt am danynw, oni byse fod yr Eglwys Gatholig yn ymgodi yn raddol o ganol yr adfeilion. Araf a fyse'i chynnydd hi hyd yn hynn, am mai estronied ac nid Cymry oedd y rhann fwyaf o'i hoffeiried-hi; a distaw hefyd, am y gallase-hi trwy godi ei llef yn yr hewlydd gyffroi rhagfarn y Protestanied.

'D ydan ni, y Catholigion, ddim o'r rhai sy'n llawenhau yn yr anrhefn a fydd yn wastadol yn cyd-fynd ag ymddatodiad crefydda, canys yr ydani yn cydnabod fod gau grefydd yn well nag angrhefydd, a gau grediniath yn well nag angrhediniath; eithyr y mae yn sicceir na fyse'r Cymry ddim yn troi i mewn i'r "ddinas ag iddi sylfeini,”' pe na byse'r gwyntoedd yn dymchwelyd eu pebyll. Fel y darfu i 'scytiada natur gymhwyso'r ddeuar yn gyfaneddle i ddyn, felly y darfu i ddymchweliad pob peth ddarparu Cymru i'r Eglwys Gatholig. Er hynny ni fyse-hi byth yn gallu ymgodi ar y tir lle y cwympodd y cyfundeba erill, pe nad ymbwysase-hi ar y teimlad cenhedlig. Y hi, bellach, er ei bod yn gatholig, oedd yr unig eglwys wir Gymreig.

At y Cymry yn unig yr oedd ei gwyneb hi yng 'Hymru. 'D oedd-hi ddim yn cefnogi Dic-Siôn-Dafyddion a dyfodied o Seuson i barhau mewn anwybodath o iaith y wlad, trwy frysio i ddarparu iddynw wasanath Seisnig; eithyr yr oedd-hi yn barod i gyflogi gwŷr cymmwys ymhob ardal i ddysceu Cymraeg i'r rhai oedd yn meddwl byw yng 'Hymru; ac yr oedd-hi yn cael fod gneuthur hynny yn rhattach o lawer na chodi Inglis Cosys. Yr oedd hi yn ymogelyd rhag rhannu'r genedl,