Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pwyllog, duwiolfrydig, a Chymroadd gyda â hynny, ac wrth weled ohonynw nad oedd y secta gann mwya na Chymroadd na Chatholig, nw a ddechreuson alcru ar Brotestaniath, a hireuthu am eglwys ag sydd ymhob gwlad "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd": eglwys a fydde'n gyfaddas i'r Groegied a'r barbaried hefyd, i'r Cymry ac i'r Seuson, ac a fydde'n ddigon cref i fynnu ei gwrando pann yn dadla dross genedl fach yn erbyn cenedl fawr.

Hyd yn noed y pryd hwnnw, yr oedd y llid oedd rhwng cenedl a chenedl, a rhwng dosparth a dosparth yn yr un genedl; herr y gorchfygwr a gwaedd y gorchfygedig, a'r aflywodrath cyffredinol, yn arwyddo fod Armagedon y boblodd gerr llaw; a phwy, eb y rhain ynddyn eu hunen, a ddichon, drannoth ar ôl y frwydyr, gyfryngu yn effeithiolach, a gneuthur heddwch teccach na'r teyrn cadarnaf ar y ddeuar, sef y Pab? Onid ydi-o eisys, meddenw, wedi dadla dross y Gwyddyl a'r Pwylied a brodorion Affrig a'r India pha ham na ddadleua-fo drossom ninna yr un ffunud? Ac od oes grym yn ei air-o yn awr, pa faint mwy o rym a fydd ynddo wedi'r ysiger y Seuson a'r Prwsied, a gormeswyr erill, yn y rhyfel mawr?

Nid gweled ymhell yr oedd y dynion hynn: gweled yr oeddenw yr agos yn eglurach na'u cym'dogion. Yr oeddenw yn gwybod o'r blaen fod Eglwys Rhufan yn eglwys gyffredinol, ond ofni yr oeddenw y cyfarsange'r cyffredinol ar y neilltuol, ac felly yr ymgolle'r genedl yn yr eglwys, eithyr erbyn yr amser yr ydwi yn sôn am dano, yr oeddenw wedi dyfod i wybod yn amgenach.