lliosocced â'r Methodistied. Yn y mann, fe gafodd y Bedyddwyr, a secta erill, achos i lawenychu am yr un peth: ond pann welsonw'r Corff yn marw ar garlam, fe droes eu llawenydd yn alar ac yn ofon; canys nw a deimlason fod un o brif golofnau Ymneilltuath a Phrotestaniath yng 'Hymru wedi ymollwng, ac nad allen nhwtha ddim yn hir rwystro'r trychineb a ddigwyddodd iddi hi.
Fe dwyllwyd yr holl secta yn eu hystadega; canys pann oeddenw yn tybied eu bod yn gryfion yr oeddenw mewn gwirionedd wedi mynd yn weinion iawn. Tua thrigian mlynedd cynn eu trangc, yr oeddenw yn gallu ymffrostio eu bod yn lliosoccach nag y buonw erioed; ond cyfri manus yr oeddenw ac nid grawn: canghenna crin ac nid rhai ir, heb ystyried mai hyrddwynt cymmedrol a dycie i chwalu ymath y rhain i gid... 'D oeddenw ddim yn ystyried fod y rhann fwyaf o'u heuloda wedi mynd yn esceulus, a bod eu plant morr ddi-doriad ag anifeilied. 'D oeddenw chwaith ddim yn cofio nad oedd eu cynnydd mewn rhifedi wedi'r cwbwl ddim yn cyfatteb i gynnydd y boblogath, a'u bod yn colli mwy o'u plant eu hunen nag oeddenw yn eu hennill o'r byd. Heb law hynny, yr oedd pob sect, er's talm hir cynn ei marw, wedi mynd yn ddwy sect, sef, yn un Gymreig ac yn un Seisnig; ac er nad oedd dim cydymdeimlad rhwng pob dwy â'u gilydd, yr oedd y naill fel y llall yn ymarfer â phob rhiw gastia i'w galluogi eu hunen i ymgynnal; a braidd nad oedd y secta Cymreig wedi mynd morr anffyddol ac anfoesol â'r rhai Seisnig.
Er morr ddiriwiedig yr euthe corff y genedl, yr oedd yng 'Hymru weddill nid bychan o ddynion