ne ynte yn iaith y dyn hwnnw? Yn wir, y mae yn rhaid fod Seisnigath ne Brotestaniath ne riwbeth wedi gneyd llawer o'n cyndada naill ai yn ynfyd ne ynte yn anwybodus dross benn.
Er mwyn dangos ichi ym'hellach fod llawer o Ddic-Siôn-Dafyddion yn yr hen secta Cymreig hefyd, mi allwn brofi ichi fod
YNG 'HYWREINFA BRAICH-Y-CAFN
garreg ag arni yr yscrifen honn: "Welsh Calvinistic Chapel, A.D. 1868." Fe ddwedir fod y cappel y perthyne'r garreg honn iddo yn sefyll ym Mraich-y-Cafn yn y ganrif o'r blaen; ac y gallase-fo fod yn sefyll hyd heddiw oni byse ddarfod ei losei hyd lawr mewn ffrwgwd a fu rhwng y Methodistied â'r Annibynwyr. Yn agos i'r mann y safe hwn y mae dau hen gappel arall, y rhai y mae un o honynt yn awr yn ystordy a'r llall yn yscol. Yr ydys wedi crafu ymaith yr yscrifen sydd ar wyneb y ddau hynn; eithyr nid morr lwyr chwaith fel na ellir canfod o agos y geiria hynn: Tabernacle Baptist Chapel, 1866. "Siloam, erected A.D. 1872. Lease granted by Lord Penrhyn, and the Hon. G. S. D. Pennant." Er nad oes ar y ddau hynn ddim i ddangos mai hen gappelau Cymreig ydynw; etto fe ellir dwyn tystioleutha i brofi mai rhai Cymreig oedden nhwtha, ac mai tra Chymreig oedd yr ardal hefyd pan yr adeiliwyd-nw.
Yr ymddygiada plentynadd hynn, ynghyd â petha erill, a barodd i'r Cymry dysyml ddiflasu ar y secta, Cymreig a Seisnig; ac a'u gyrodd-nw i freichia'r Eglwys Gatholig; yr honn a naeth yn hyspys ei bod hi yn barod i sefyll ne syrthio, yng 'Hymru, gyd â hen iaith y wlad. Fe fu