Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfnod pann oedd y Cymry Cymreig hynn yn llai eu rhifedi na'u gwrthwynebwyr; yn ddirmygedig yng'olwg erill, ac yn eu golwg eu hunen hefyd. A chan eu bod-nw gan mwyaf yn ddistawach, ac yn rhy swil i gymmell y Cymdeithasa Seisnig- eiddiol i gyfrannu arian tuag at godi a chryfhau ; Achosion Cymreig, yr oeddid yn tybied eu bod yn wannach nag oeddenw. Gwann ne amgen, nw euthon, er y flwyddyn 1880, fel tŷ Dafydd, yn gryfach gryfach; ac fe aeth eu gwrthwynebwyr, fel tŷ Saul, yn wannach wannach; gymmin felly, fel pann y daeth dydd dial y cenhedlodd darostyngol, a dydd iachawdwriath y cenhedlodd darostyngedig, yn agos ac yn siccir, y brysiodd y rhan fwyaf o weddill y Dic-Siôn- Dafyddion ìi ymgysylltu â'r dosparth a ddangosase'i hun yn gnewullyn y genedl.

Yr oedd y cyfnewidiad morr gyflym ness bod yn ddigrifol, ïe, yn wyrthiol. Yr oedd y rhai oedd o'r blaen yn siarad Cymraeg yn fawr eu llediaith, erbyn hynn yn gallu siarad morr Gymreigadd â neb. Fe glywid y rhai fu gynt yn fudion mewn cymdeithas Gymreig, yn awr yn llefaru yn eitha llithrig. Yr oedd y rhai a fysen yn rhy ddall i ganfod eu dyledswydda cenhedlig, yn awr yn gweled yn eglur; a'r rhai a fysen yn rhy gloff i fynd allan gyd â byddinodd Cymru, y pryd hwnn yn rhedeg yn siongc. Yr oedd y i rhai a euthen yn gynddeiriog gann drymder y dwymyn Seisnig, bellach wedi ymiachâu, ac yn eistedd yn eu hiawn bwyll. Fe ddengys y petha hynn mai rhiwbeth bas, afrïol,<ref> O an a rhiol: unreal. Y mae "rhiol" yn air cyffredin yn yr ardal y magwyd y Cofnodwr ynddi.<ref> a dibara oedd y Seisnigath a ddaeth dross Gymru, ac fod calon