Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf II.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nesaf i mewn pob Cymro, yr un ffunud â'i gydwybod-o, yn wastadol yn lleisio yn gywir, er ei bod weithia yn lleisio yn wan.

Gan mai trwy gymmorth eenhedlodd Catholig, ac yn arbennig trwy gyfryngiad ein santadd Dad o Rufan, y cawsoni'n hannibyniath, ac yr ehangwyd terfyna'n gwlad, yr oedd diolchgarwch a gwladgarwch, heb enwi dim rhesyma erill, yn ein eymmell-ni i dderbyn y grefydd a ddygodd I ni ac i'r byd oll y fath werthfawr ymwared. Diolehwn i Dduw am ein bod bellach yn

UN GENEDL, O RANN TEIMLAD, IAITH, A CHREFYDD.

Yr ydani etto yn ein hyscolion yn dyscu llawer iaith; eithyr un, sef yr hen Gymraeg, ydi iaith ein senedd, ein llysodd, ein cappela, a'n heulwydydd. Yr ydani etto, er mwyn bod yn wybodus, yn ceisio cofio rhifedi ac enwa y gwahanol grefydda a fu yng 'Hymru; eithyr un grefydd, sef yr un Gatholig, yr ydani yn ei proffesu.

Diolchwn hefyd i sprydodd yr hen Gymry pybyr a ffyddiog, a dreuliason eu hamser, eu dawn a'u harian i gynnorthwyo'u cydwladwyr i ymgadw yn genedl, trwy eu cynnorthwyo-nw i gadw'u hiaith. Ni chawsonw ddim tâl na nemmor o ddiolch tra yn y cnawd; yn hytrach, gwaradwydd: a phann y peidid â'u gwaradwyddo, yr oeddid yn eu diystyru. Ond gann eu bod yn obeithiol, ni all eu bod yn drist. Yr oeddenw yn ymladd dross eu hiaith, eu gwlad a'u cenedl, wrth ola seren ag oedd yn dwyn dydd i'w chanlyn. Yr oeddenw yn gweled y tir pell —CYMRU FYDD; Cymru lonydd. Ac O! morr dda ydi cael llonyddwch oddi wrth yr ymgecrath